Friday 26 June 2009

Llun da i hyrwyddo'r ymgyrch .....


4 comments:

  1. Gwir i gyd. Y term Saesneg am hyn yw "cultural penetration" sef un diwylliant yn ffwcio'r llall, a'r iaith frodorol felly yn ddim ond cyfrwng i gryfhau'r diwylliant estron, Transatlantig, yn yr achos yma. Ry'n ni'n naif iawn yn meddwl bod cael cyfrwng yn ein hiaith ein hunain yn ddigon. A faint gwell yw blydi S4Siec? Ymlaen â'r frwydr!

    ReplyDelete
  2. LLythyr gwych - chwerthin! os nag odd e mor blwmin drist. Y peth yw does dim ots gen i wrando ar gerddoriaeth Saesneg os oes rhyw bwynt a rheswm i'w chware ond mae'r cerdd MOR diflas yma yn codi gwrychyn ynghyd ac anwybodaeth y cyflwynwyr am gerddoriaeth yn gyffredinol. Mae cerddorion Cymreig yn cael bargen wael fel y mae am gyfansoddi a darlledu eu caneuon, felly pam bod radio Cymru yn mynnu twlu arian i bocedu cyfansoddwyr Seisnig/American?

    ReplyDelete
  3. Wel wy'n mwynhau Radio Cymru. Ac i gymharu a RTE Raídio Na Gaeltachta yn yr Iwerddon, a Radio Kerne yn Llydaw, mae'n bosib i radio Cymru i ddarparu rhaglenni sydd a cherddoriaeth uniaith Gymraeg, fel Eleri a Daf Du yn y bore a Nia Roberts. Yn Iwerddon, mae'r rhaglen ar Raídio Na Gaeltachta i bobl ifanc, sef Geíll Slí, (eu C2 nhw, felly!) yn chware cerddoriaeth bron yn uniaith Saesneg gydag ambell drac yn y Wyddeleg oherwydd bod cyn lleied o fandiau yn Iwerddon yn canu yn y Wyddeleg. Felly i gymharu a'r gwledydd bychain eraill, dwi'n credu bod Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru yn un da ac yn un sydd yn rhoi pwyslais ar gerddoriaeth Gymraeg. Sdim niwed mewn cal cerddoriaeth saesneg ar y sianel, ond bod dim gormodedd.

    Beth sydd angen taclo yw'r rhaglenni o safon ar gerddoriaeth wael sydd yn cael ei ddefnyddio ar y sianel h.y. Rhaglen Jonsi!!

    ReplyDelete
  4. *rhaglenni o safon isel, mae'n ddrwg da fi.

    ReplyDelete