Friday 26 June 2009

Llun da i hyrwyddo'r ymgyrch .....


Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Llythyr agored i'r wasg gan Y Teithiwr Rhadlon :

Annwyl Olygydd,

Hoffwn, drwy eich tudalennau, longyfarch Radio Cymru ar eu gwasanaeth. Maent yn wych am arbed pen fy mys, ac arbed traul ar fotymau'r radio yn y car. Gan fy mod yn teithio’n gyson, rwy’n dibynnu’n helaeth ar y radio yn y car am adloniant yn ystod y daith.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, fodd bynnag, dwi wedi darganfod nad oes rhaid i mi ymestyn at y radio i bwyso botwm arall o gwbl ar hyd y daith. Does dim rhaid i mi bwyso botwm Radio One i gael y storiau ‘juicy’ sydd yn y papurau Prydeinig, na’r ‘gossip’ am ‘celebs’ Eingl-Americanaidd - dwi’n eu cael ar Radio Cymru! Does dim rhaid i mi chwaith bwyso botwm Radio Two, dwi’n cael 10cc, Manfred Mann, Ivy League, Lionel Richie, The Everly Brothers a mwy, i gyd ar Radio Cymru! Does dim rhaid i mi newid i’r ‘Chart Show’ i gael y Top Ten Prydeinig chwaith - dwi’n eu cael ar Radio Cymru! Yn ddiweddar cefais wybod fod ‘He Ain’t Heavy’ wedi ei recordio union 40 mlynedd yn ôl, a mwy na hynny, mai Elton John oedd yn chwarae’r piano ar y recordiad (rhaglen Eleri Siôn a Daf Du). Yn dilyn trafodaeth a oedd bron yn ddifyr, bu bron i mi glywed hefyd faint oedd oed Elton John 40 mlynedd yn ôl, ond roedd rhaid i mi ddiffodd y radio a mynd allan o’r car!!

Yn hwyrach yn y dydd, ar ôl dod ataf fy hun, cefais wybod fod ‘I’m Alive’ gan The Hollies yn rhif un yn yr union fis yn 1965 - pwy fasa’n meddwl - a byddai David Paich o Toto wedi cael ei ben-blwydd y diwrnod hwnnw, cofiwch, petai yn fyw!! Ar ben yr holl wybodaeth hyn, dwi’n cael clywed y caneuon hefyd - eto heb ymestyn modfedd at fotwm Radio Two, Radio Wales, na Radio One. Ac wedyn pan rwyf eisiau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg gallaf roi’r CD ymlaen! Mae fy mys canol i mor falch o’n gorsaf genedlaethol!

Yn gywir,

Y Teithiwr Rhadlon